Skip to main content

‹‹‹ prev (92)

(94) next ›››

(93)
lxxxix
§19. NODION CYMYSG
Ar ôl buddugoliaethau mawr Rhagfyr 1215, cyfarch-
wyd Ll}^elyn ab lorwerth gan Einiawn fab Gwgawn ;^
Llywelyn boed hŷn boed hwy dichwein
No Llywarch hybarch hybar gicwein.
h.y. dymunai iddo fyw'n hwy na Llywarch (Hen).
Wedyn cymhara ef i'r Tri Hael, Nudd, Rhydderch, a
Mordaf ; yn 1215 nid oes ond un Hen Ẅr : yr oedd y
cyfarwyddyd wedi sicrhau hynny.
Yn Englynion y Clyweit,^ a luniwyd i helpu cofìo
diarhebion, rhoir dihareb i Urien (10), Cynfarch (11),
Heledd neu Hyledd (28):
A glyweist di a gant Hyled,
Merch Kyndrwyn mawr y ryued ?^
Nyt roi da a wna tloded.
Hefyd Llywarch (34) :
A glyweist di a gant Llywarch
Oed henwr drut dihafarch ?
Onyt kyfarwyd, kyfarch.
Yn 62 yr enw yw Ryndrwyt, ond odlir â mwyn ; felly
Cyndrwyn. Amseriad : gellid cynnig diwedd y ddeu-
ddegfed neu'r drydedd ganrif ar ddeg. Y mae'r ddi-
hareb a roir yng ngenau Heledd yn ategu'r dehongUad a
gynigiwyd uchod (§12), ar amcan y cyfarwyddyd
amdani. Etyb ail linell englyn Llywarch hefyd i
gymeriad yr hen ŵr jm y Canu, cf . II, 18.
Pabell Llywarch Hen, yn ôl Mont. Coll. ix, 204, yw
cylch o feini ger Llanfor, Meirionnydd ("a circle of large
stones"), gw. Lloyd, H.W. 246, "Pabell Ll.H. a stone
1 Lloyd, H.W. 648 ; M.A. 226 a b ; H. 52.
*B. iii, 4-21.
^Gw. ar III, 33a, am yr ystyr.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence