Skip to main content

‹‹‹ prev (60)

(62) next ›››

(61)
§10. CANU LLYWARCH lvii
Cuawg ; deffry cân y gog dristwch yn ei enaid. Pan â'r
rhyfelwŷr i gad, ni all ef fynd oherwydd ei anaf (17-8),
cf. VII, 5, lle ceir yr un datganiad, ond o lyfrdra ?
Cyweirnod ei gân y^ 29c, "Ni ad Duw dda i ddiriaid",
gw. td. 173. Y mae Duw a àyn yn ei erbyn, ac anobaith
wedi ei feddiannu. Ymddengys 31-2 fel atodiad, rhywun
yn gweddîo ar i Dduw fod yn garedig wrth yr estron
hwn. Bu gynt, meddai, yn facwy ac yn filwr mewn llys
brenin. Nid Llywarch yw'r claf , neu buasai wedi dweud
droeon "Wyf hen !" Ond perthyn y gân i'r un ysgol ;
y mae Duw a thynged wedi eu cymysgu yn gyffelyb jm
meddwl y neb a'i Uuniodd. Buddiol yw ei hastudio
gyda'r lleiU.
Priodolir Englynion yr Eiry i Lywarch Hen (ac ar
yr ymyl i Fapclaf ap Llywarch) yn Pen. 98 B. 51, ac
yn y rheini hefyd lleddir ar y diriaid, megis "Ni haedd
diriaid ei garu. Cynghori d. nid hawdd. Ni cheidw
d. ei dda"; ac wedyn daw atsain o VI, 29c, "Ond geni
dedwj^dd nid rhaid / ni rydd Duw dda i ddiriaid" .
Cyferbynnir y dedwydd a aned yn ffodus â'r diriaid
a aned dan felltith. Ac eto yn Pen. 102, 10, ceir tri
englyn "Duad", lle dangosir tosturi tuagat y truan
anffodus^ fel yn 31c, ac nid y condemniad rhwydd
a ddatgenir mor gyfíredin. Y mae i'r englynion
hyn le arbennig yn hanes meddwl yng Nghymru.
Rhif VII. Canu Natur, a brawddegau diarhebol yn
gymysg — dyna'r cychwyn. Ond clywaf sŵn dadl
drwodd. Gadewais allan y Uinellau llanw, er mwyn
amlygu'r ymddiddan ; y mae un llefarwr yn hel pob math
o esgusodion rhag mynd i ryfel, a'r Uall yn Uadd ar
lyfrdra. Medd un, "Ý mae'n rhewi'n rhy galed i filwyr
droi allan ; ni fedraf fi fynd o achos anaf ; byr dydd".
Etyb y Uall, "Meccid llwfr llawer cyngor ; er pob
1 Gw. isod td. 173, ar 29c.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence