Skip to main content

‹‹‹ prev (48)

(50) next ›››

(49)
xlv
§7. CYMERIADAU
Goddefiad, mae'n debyg, oedd y llinellau llanw, ond
amcan oedd y Cymeriadau, sef trefnu fod nifer o'r
englynion yn cychwyn gyda'r un sain, yr un gair, yr un
geiriau, ac weithiau yr un Ihnell.i Trwy hyn helpid y
cof i gydio ynghyd nifer o englynion, a gwneud cadwyn
neu osteg ohonynt. Os ystyriwn odl, sef diweddu
llinellau â'r un sain, yn hyfryd i'r glust, felly hefyd yr
ystyrid dechrau Ihnellau â'r un sain yn hyfrydwch a
chelfyddyd. Mewn un gân isod, mi dybiaf i'r bardd
geisio canu ar y wyddor am ennyd ; pedwar englyn yn
A, un yn B, tri yn K, cf. Awdl Lewys Glyn Cothi,
Gw^meddon 3, 281-98, am enghraifft gyfìawn yn y
bymthegfed ganrif, a gorchest Nennius yn Lladin, ar
ddechrau'r nawfed, rhoi rhes o eiriau yn nhrefn y
wyddor.2 Ceir Cymeriad ar ddechrau odlau byrion y
Gododdin, ond mewn cadwyni o englynion y digwydd
amlaf. Yn Llyfr Coch Hergest er enghraifît ceir 36
o englynion yn dechrau gydag Eiry Mynyd ; 18 Bit ;
8 Gnawt ; 9 Ralangaeaf ; 33 Gorwyn; 15 Lluest ;
1 1 Yn llongborth ; 9 Oed re redeint dan uordwyt gereint /
garhiryon grawn, a'r llinell olaf yn dechrau rudyon ruthur
eryron mewn saith o'r rheini.^ Hefyd cf. B.B.C. 97, lle
ceir 4 Boed emendiceid ir guit.
bump englyn y Mabinogi ceir 3 yn dechrau Dar a
dyf; yn Trystan ac Esyllt 2 yn abrwysgl fydd ; 8 Trystan
gynheddfav ; 3 Gwalchmai gynheddfay. Cymharer isod
td. 3-5, 6 yn Gwen, 5 yn Pedwarmeib ar hugeint ; td. 9-10,
7 yn Baglan brenn ; y cadwyni hir sydd yn Rhif HI,
td. 11-19; Rhif IV, td. 20; Rhif VI, 23-4; ac yn
1 Gw. Cerdd Dafod, 290-8 ar hyn yn y beirdd diweddarach.
2 Mommsen, td. 144. Am gamp leuan ap Sulien 1085-91,
gw. Haddan a Stubbs, Councils I, 663-7 ; Lloyd, H.W. 460.
3R.P. 7-15.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence