Skip to main content

‹‹‹ prev (35)

(37) next ›››

(36)
xxxii RHAGYMADRODD
Gwenalogie (bai am Genealogia ?); yna daw Senr, Medd-
wyl {Meddnyb ?), Medlan, Gwledr, Meisir, Kemvrit,
Heledd, Gwladus, Gwenddwyn. Yn sicr Ffreuer yw ei
Senr, a Cheinfryd yw Kemvrit.
Y mae mwy o debygrwydd i wir yn B.S. (gw. L.B.S.
iv, 370); yno rhydd dwy lawysgrif o'r drydedd ganrif ar
ddeg (Pen. 16, Pen. 45), dri sant yn feibion "Hygarfael
m. Kyndrwyn o lystinwynnan yg hereinyawn," sef
Elhaearn^ yng Nghegidfa (Guilsfield ym Mhowys),
Llwchhaearn yng Nghedewain, a Chynhaearn yn Eidd-
ionydd neu Eifionydd. Tybiwyd mai Llysin, plwyf
Llanerfyl, neu Foelfeharth, Llangadfan, oedd Llystyn-
wynnan. Enw un o bum tref Caereinion yn 1290 oedd
Lestynworman (bai am -wennan, darllen -wenn- fel
-worm-).^ Yn bendifaddau y mae tueddau Caereinion
yn perthyn i fro Heledd ; a chan yr hoífid ailadrodd yr
un elfennau yn enwau ceraint, gwerth sylwi ar debyg-
rwydd enwau Hygarfael a Charanfael ei nai, cf. -haearn
yn enwau'r trisaint. Yn sicr nid oes obaith o'r "Cyn-
drwyn Vychan ap Cyndrwyn Fawr ab Aelfred brenin
Cornwal" sydd gan L.D. ii, 98b.
I geisio amseru'r saint, sylwer fod Elhaearn yn ddis-
gybl Beuno, a ymrafaehodd â Chadwallon (lladdwyd
634). Yn ôl B.S. yr oedd mam Beuno yn chwaer i fam
C^mdeyrn (gw. uchodtd. xxvi). Cafodd Beuno Aberriw
(gw. ar XI, 71b) gan Fawn fab Brochwel (Ll.A. 120), bai
am frawd Brochwel, medd L.B.S. i, 211. Cyfarfu â
ThysiHo yn Meifod, a digiodd wrth neiaint neu wyrion
Cynan ap Brochwel. Efallai fod ei ddisgybl Elhaearn,
ŵyr Cyndrwyn, a nai Cynddylan, beth yn iau na'i feistr.
' Melhayarn yn Pen. 16, trwy gamddarllen Ael- P
« L.B.S. i, 110 ; M.C. ii, 359 ; iv, 189 ; viii, 335 ; Camb. Reg.
ii, 366. Yn ei grynodeb o lawysgrifau Cymraeg, rhydd Lhwyd,
A.B. 258a, gynnwys Y Kynveirdh Rymreig, o law R. Yaughan :
yno ceir Kerdh meibion Kyndhruyn o lŷs Dynuennain ym Mhouys.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence