Skip to main content

‹‹‹ prev (25)

(27) next ›››

(26)
xxii RHAGYMADRODD
IX. Guallauc m. Laenauc m. Masguic clop m.
Ceneu m. Coyl hen.
X. Morcant m. Coledauc [ac i Beli et Annà].
Amlwg ddigon ddarfod ceisio'r achau hya o rywle i
egluro pwy oedd y gwŷr a enwir gyda'i gilydd yn y
chwanegiad uchod at Achau'r Saeson. Ac fel y nodwyd
yn barod, y mae sail gadarn i'r farn mai tua 950-60 y
casglwyd yr achau hyn. Os felly, dyma dystiolaeth o
ganol y ddegfed ganrif fod y nodyn yn yr Historia y pryd
hwnnw, ac wedi hen sefydlu yno, a bod achwr o'r oes
honno yn gosod Urien mab Cynfarch yn amser meibion
Ida. Fe sylwir hefyd nad enwir Lljrwarch Hen yn y
nodyn nac yn yr achau. Serch hynny, gwyddys fod Ida
yn teyrnasu ynghanol y chweched ganrif, a dyma dra-
ddodiad cynnar^fod Urien a'ifeibion yn ymladd ynerbyn
meibion Ida yn ail hanner y chweched ganrif . Dengys
hyn i ba gyfnod y perthynai cefnder Urien, sef Llywarch
Hen.
Ategir hyn gan achau eraill. Dyfynnaf De Sitv
Brecheniavc, Vesp. A. xiv, llawysgrif o ddechrau'r
drydedd ganrif ar ddeg, copi o lawysgrif a allai fod cyn
gynhared a'r unfed ar ddeg (gw. Wade-Evans, Cy. xix,
26; vii, 105-6; A.C.L. ii, 516).
Nyuein íìHa Brachaw, uxor kenuarchcul lìhi
Meirchiaun. Mat^r Yruoni. Matm Euerdil.
Matm Estedich. uxor Elidir coscoruaur^ et Mater
Gurgi et Peredur.
Guaur filia Brachaw uxor Lidanwen et Mater
Loarch hen.^
* Glos uwchben, magne familie.
* Glos uwchben, ueteris.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence