Skip to main content

‹‹‹ prev (22)

(24) next ›››

(23)
§2. TEULU LLYWARCH YN YR ACHAU xix
Achau'r Saeson ynglŷn wrth yr Histona yn ei amser ef :
dywed na fynnodd eu copîo gan mai difudd yr ystyrid
hwy gan ei feistr Beulan.^ Eto nid tystiolaeth mo h)m
i'r nodion Cymreig yn Achau'r Saeson, ond i'r Achau eu
hunain. Efallai fod y nodion eisoes i mewn, ac efallai
nad oeddynt. (Ni rydd y cyfieithiadau Gwyddeleg help
i dorri'r ddadl.) Sut bynnag, y maent yn Harl. 3859
tua 1100 ; a dangosodd PhilHmore yn ghr^ mai copi yw'r
llawysgrif honno o un gynharach yn y dull Hiberno-
Saxon o ysgrifennu, ac nad Cymro oedd y copîwr, ond
gŵr anghyfarwydd yn y Gymraeg, fel y dengys ei gam-
gymeriadau aml a dybryd wrth gopîo enwau a geiriau
Cymraeg. Yr oedd y darnau Cymreig yno yn ei wreiddiol
ef, canys yn sicr ni feddai hwn ddigon o Gymraeg i'w
creu. Ac yr oeddent yno yn 954 hefyd, achos i'w
hegluro hwy y detholwyd rhai o'r hen achau Cymreig a
geir ar ôl yr Historia yn Harl. 3859. Dyfynnaf bellach
rai ohonynt. Ar ôl cofnod am Ida, brenin Northumbria,
547-59, chwanegwyd hyn :
[T]unc dutigim. in iUo tempore fortit^r dimicabat
contra gentew anglorum. Tunc talhaern tat
aguen in poemate claruit. et neirin. et taUessin et
bluchbard. et cian qui uocat^r gueinth guaut.
simul uno tempore in poemate brittannico
claruerunt,
"Yna, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn yn wrol
yn erbyn cenedl yr Eingl. Yna bu Talhae(a)rn Tad
Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin a Thaliesin,
a 'Bluchbard' a Chian (a elwir Gweinth Gwawd) ynghyd
yn yr un amser, a fuant enwog mewn barddoniaeth
Gymraeg."
' Mommsen, td. 207, cum inutiles magistro meo, id est Beulano
presbjrtero visae sunt genealogiae Saxonum et aliarum genealogiae
gentium, nolui eas scribere.
^Cy. ix, 144-9.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence