Skip to main content

‹‹‹ prev (16)

(18) next ›››

(17)
§1. OED Y TESTUNAU xiii
Lyfr Gwynn Rrydderch yn oed lcrist 1573, ag a
ysgrifennais ine oi law ynte yn oed krist 1607, ag
edrach yn dda pa wedd y darlleir hwynt.
Yna daw'r caniadau a ganlyn, rhai gyda theitlau :
1. Englynion marwnad Geraint ap Erbin.
Panet anet Gereint.
2. Ratwallan kyn noe dyvot {heb deitl).
3. Sefwch allan vorynyon {heb deiü).
4. Englynion mab claf.
Goreiste ar vryn.
5. Englynion llywarch.
Kyn bum kein vaglawc.
6. Dym kywarvydyat vn hwch {heb deitl).
7. Englynion llywarch y vab.
Maen wynn tra vum yth oet.
Ar ddiwedd yr olaf, td. 169, ychwanegir :
Ac velly drwy stremio yn grafí yn e llyver mewn
lle gole ac ym pelydr yr haul herwyd tywyllet oed
yr scriven ai henet Duv saturn yv hynn y seithvet
die ar xx o vis chwefrol oed yn harglwydd ni Jessv
Grist mil a ccccc lxxiij. a minnev ai Scrifennais
allan o law yr vn rryw Risiart Langfford y 24 die
o vis Medi oed krist 1607. Ac yma y terfyna y
kopi o lyfr gwyn Rrydderch a ysgrifennais i o law
yr hen Risiart Langfford.
Diolch i'r hen Risiart^ am stremio ! Oni bai am hynny,
ac i J.J. gopîo ei gopi mor llythrennol, buasem heb
amryw linellau a geiriau o ganu Llywarch. Heblaw
hynny dyma dystiolaeth bendant fod y caniadau hyn
ganrif yn hŷn na'r Llyfr Coch.
1 Arno gw. G. J. Williams, Gramadegau'r Penceirddiaid,
td. cix.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence