Skip to main content

‹‹‹ prev (8)

(10) next ›››

(9)
RHAGAIR
NiD yw'r Uyfr hwn ond ymhelaethiad ar ddariith a
draddodais Chwefror 1, 1933, o íiaen yr Academi
Brydeinig yng nghyfres Darlithiau Coffa Syr John Rhys.
Yn wir yr oeddwn eisoes wedi rhoi cnewyllyn y ddamcan-
iaeth newydd ar yr hen ganu hwn wrth drafod ein
Barddoniaeth Gynnar mewn cyfres o ddarUthiau
cyhoeddus yng Ngholeg y Gogledd, Bangor, ddechrau
term y gwanwyn, 1932. Ond er bod tair blynedd bellach
wedi llithro ymaith, ni fedraf honni i mi ddehongli pob
llinell i'm bodlonrwydd fy hun heb sôn am eraill. Erys
nifer go fawr o eiriau yn bur dywyll. Oherwydd hynny
rhois yn y Nodiadau yr amryfal ystjn-on a ymgynigiai
i mi, gan obeithio y buasai rh^rw un ohonynt, efallai, yn
gymorth i ymchwilydd arall gael y gwir.
Yn y Rhagymadrodd fy amcan oedd egluro'r cyfar-
wyddyd Cymraeg i Gymro. Buasai amryw o'r adrannau
ynddo yn gryfach o gynnwys ynddynt gymhariaeth â
llên Iwerddon, canys gwaith y Gwyddel gynt yw'r help
gorau i ddeall gwaith y Cymro gynt. Y crynodeb gorau
o'r chwedlau Gwyddelig yw Die irische Helden- und
Rönigsage gan Thurneysen, a dysgais lawer am eu han-
sawdd oddi wrth Iyfrau Kuno Meyer. Heddiw y mae
cyfrol werthfawr H. M. ac N. K. Chadwick, The Ancient
Liíeratures of Euroỳe, Caergrawnt, 1932, mor hollol ar y
pwynt fel mai ffôl fuasai i mi wthio mân nodion i mewn
yma ac acw a thrafodaeth gyíìawn yng nghyrraedd ein
myíyrwyr.
IFOR WILLIAMS.
Porthaethwy,
lonawr 8, 1935.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence