Skip to main content

‹‹‹ prev (46)

(48) next ›››

(47)
ENOC HUWS. 43
chwi, Sarah ? Mae o •wedi bod yma fwy nag unwaith yn cael
cinio, ac am grefydd y soniai bob amser gyda chwi, onide ? a
byddai yn crîo gyda'r llygad agosaf atoch chwi, ac yn wincio
gyda'r llall arnaf íìnau. Scotchrnan ydyw Mr. Fox, a'r rhag-
rithiwr mwyaf melldigedig a adwaenais erioed— oddigerth fi fy
hun ! Sarah, bydawn i yn myn'd dros yr hoU hanes yn fanwl,
fe fyddai ei haner yn Latin i chwi, a'r unig beth a welech yn
eglur a fyddai y fath Avr cydwybodol sydd genych ! Ond 'doedd
dim Latin rhwng Mr. Fox a minau — yr oeddym yn dallt ein
gilydd i'r dim. Tr oeddym ein dau yn gobeithio, o waelod ein
calonau, i waith Pwllygwynt droi allan yn dda, ac yn credu o
waelod ein calonau mai fel arall y troai, ond, fel gwir feinars,
ui ddarfu i ni sibrwd ein crediniaeth i neb byw bedyddiol.
" Ydach chwi yn y nghanlyn i, Sarah ? Fe ddariu i ni, fel y
gwyddoch, ffurfio cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o
bunau. !Fe ddarfu i iii ei wneud yn 'poitd i beidio agor ond
can lleied ag a fedrem ar y Gwaith, rhag i"w dlodi o ddod i'r
golwg, a chymeryd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem
ar y làn mewn huildings a macliineri/ ac yn y blaeu. Achos
pan fydd pobl wedi gwario ilawer o arian gyda gwaith mẃn.
mae yn fwy anhawdd ganddynt ei roddi i fynu. Ac fe ddaeth
y d\vr i'n helpio i gadw y Gwaith i fyn'd yn mlaen, ac i fod j-n
esgus am bob rhwystr ac oediad. CyfaiU mawr a fu y dẃr i
Mr. Fox a minau. Fe foddwyd ambell fil o bunau yn y dŵr.
Fe ddarfu i ni newid y ntaciiinery deirgwaith, er mwyn cyfarfod
a dymuniadau ein cyfaill ffyddlon Mr. Dẃr. Bob tro y ceid
inacìiinery newydd yr oedd hyny yn gwaghau cryn lawer ar
bocedau y cwmpeini, ac yn rhoi tipyn bach yn mhocedau Mr.
Fox a minau, oblegyd yr oedd y cwmpeiui yn ymddiried i farn
Mr. Fox a minau fel prynwyr, ac nid oedd ond peth iawn a
phriodol i ni gael tàl am ein barn. Ond nid y cwmpeiiii,
dalltwch, oedd yn talu i ni, ond y bobl oedd yn gwneud y
macMnery, achos yr oedd yn rhaid i'r llyfrau ddangos fod pob-
peth yn cael ei gario yn mlaen yn straigJd/orioard ac uad oedd
dim twyll yn cael ei arfer. Conunission, wyddoch, a fyddai y
TìíaJcers yn ei alw, gair a ddyfeiswyd i dawelu cydwybodau
capteuiaid gweithydd mŵu. Ond erbyn hyn y mae y gair yn
nicsionari y Canwyllwr, yr Ironmonger, y Timber Merchant, y
dyn sydd yn gwerthu powdwr, a chant a mil eraiil." Yn y fau
hon, eto, apeliodd y Capten am swcwr at y botel.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence