Skip to main content

‹‹‹ prev (111)

(113) next ›››

(112)
IT2 Clych Adgof.
5. Nid yw'i' athraw yn colli ei gymeriad, o
angenrheidrwydd, pan gyll ei dymer. A'r
mesur y mesuro y mesurir iddo yntau. Os yw'n
wr maddeugar, maddeua'i ddisgyblion iddo
yntau. Y mae lle mawr i athraw ym meddwl
disgyblion sydd wedi cael y dedwyddwch o
faddeu iddo. Y mae dylanwad anorchfygol yng
ngwaith athraw da yn cydnabod ei fai.
6. Os deallo'r disgyblion fod ar eu hathraw
awydd osgoi trafferth, ffarwel i'w ddefnyddiol-
ioldeb. Nid oes neb yn rhy ddwl nac yn rhy
ddiog i beidio teimlo os esgeulusir ef. Os rhaid
esgeuluso rhywun, esgeuluser y cyflymaf a'r
galluocaf ; na wnaer cam â'r araf . Ar y ddafad
lesg olaf y mae Hygaid y bugail. Ni welais neb
erioed na ddeffroai os gwelai fod ei athraw yn
cymeryd trafferth gydag ef ac yn pryderu ar ei
ran. Yr athraw sydd i fyw er mwyn ei ddis-
gyblion, ac nid ei ddi.sgybìion er ei fwyn ef.
('AERNARFON :
CWMM V Cyhoeddwyr Cymiiej
SWYDDFA "CYMItr."

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence