Skip to main content

‹‹‹ prev (107)

(109) next ›››

(108)
io8 Clych Adgof.
y got yn dynn iawn ani f 'ysgwyddau. Ni fi»
dim rhyfedd yn ystod yr arhoiiad. Ni ches
gyfle i ymddisgleirio, ond ni freuddwydiais am
drychineb.
Yr oedd gennyf ddiwrnod neu ddau i aros
am y rhan dafod leferydd o'r arholiad. Un
noson eis gyda chyfaill i un o gyfarfodydd Cym-
deithas Dafydd ab Gwilym. Collais fy holl
ofidiau yn y cyfarfod hwnnw, a theimlais fod yn
werth i mi ddod i Rydychen, pe i ddim ond
profì gwladgarwch aelodau y gymdeithas hon.
Prynnais ddarlun o'r aelodau, i'w gadw'n
ofalus, fel y gwelai fy wyrion y gwyr enwog y
cefais yr anrhydedd o fod unwaith yn eu mysg.
Daeth dydd tafod leferydd. Responsions yw
enw yr arholiad ; ond " Smalls," neu y " Fach,"
y gelwir hi'n gyffredin. Cefais fy hun am y
bwrdd a thri arholwr, pob un yn edrych arnaf
yn ddwys. Dechreuasant fy ymlid drwy droion
diddiwedd yr afreolus ferfau Groeg. Bu-
asai'n well gen i orfod rhedeg trwy yr afreolus
enwau na'r berfau ; ond nid myíì oedd i ddewis,
ysywaeth, yn y Fach. Y mae'n ddiameu gen-
nyf fod yr arholwyr wedi clywed ffurfiau na
chlywsent erioed o'r blaen, y dydd hwnnw.
Ymgynghorasant yn ddistaw, ac yna rhoisant fi
wrth fwrd'd, gan ofyn i mi droi darn o bapur
newydd Saesneg i'r iaith Ladin. Nid oeddwn
yn hollol sicr beth oedd hyn oll yn feddwl ; ond
meddyliais am arddull a miwsig, yn hytrach nag
am ramadeg, wrth gyfieithu^ — gan ochel ffurfiau
a moddau nad oeddwn wedi cael rhesymau digon
cryfion dros gredu, hyd yn hyn, eu bod yn dda i
ddim yn v byd. Dywedodd yr arholwyr, wedi
darllen fy Lladin, na thrafferthent fi ymhellach.
Tybiwn fod hyn yn arwyddocaol iawn.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence