Skip to main content

‹‹‹ prev (85)

(87) next ›››

(86)
86 Clych Adgof.
yn y golwg.t Y mae enwau ereill ar y stryd-
oedd erbyn hyn, " High Street " byth a hefyd ;
ond nid oes i'r enwau Saesneg le ond ar bren
ac ar bapur, ar filiau ac ar adroddiadau cym-
deithasau dyngarol. "Y Stryd Fawr," "y
Groes," a'r " Stryd Fach " yw'r enwau arfer-
edig. A buasid yn disgwyl gweled enwau Cym-
raeg ar ystrydoedd y Bala, yn anad un man.
Nid oes rhyw lawer o bobl ar y stryd. Y
mae'r bore tlws yn ymloewi o hyd, ond y mae'n
amlwg mai lle tawel iawn ydyw'r Bala, ond ar
ddiwrnod sasiwn. Ar yr ystryd dacw un gŵr yn
dod. Y mae ffon yn ei law, ac y mae'n pwyso
arni, er imai prin y gellir tybio ei fod yn gloff.
Y mae het Iwyd uchel, a golwg fonheddig arni,
ar €Ì ben ; y ma€ lliw goleu prydferth ar ei
ddiliad, dillad wedi eu lliwio yn yr hen fíasiwn
â çhen cerrig ; ac y mae'n gwisgo clos pen glin,
sanau baob, ac esgidiau isel.
" Helo, dyma un o hen wỳr bonheddig hen
Gymru."
" Te, yn sicr. A gwyn fyd na chaem ych-
"waneg o wỳr bonheddig tebyg iddo."
" Clywais ddweyd eich bod chwi'n credu
mewn boneddigion. Ond gwerinwr, cofiwch,
■wyf fi."
" Gwerinwr wyf finnau, i'r carn. Ond 'pe
•caem foneddigion fel hyn, boneddigion fel
llawer hen foneddwr yn y dyddiau fu, credwn
ynddynt. Clywais un o dirfeddianwyr mwyaf
yr Iwerddon yn dweyd yn ddiweddar na chredai
un gair ddywedai ei Wyddelod wrtho. Nid wyf
yn credu fod gan hwnnw hawl i fyw ar draul y
t Erbyn hyn y mac ei athrawon wedi symud i'r
Ibedd ncu i Fangor.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence