Skip to main content

‹‹‹ prev (54)

(56) next ›››

(55)
LLYFR Y SEIAT.
" Tariannau fll sydd jn crogi ynddo, i gyd yn estylch
■.■dvrn."— C'an y Caniadaü, iv. 4.
IHANESYDD cyfnodau a ddaw, bydd y
seiat, nid yn imig yn un o sefydliadau
inwyaf dyddoiol y ganrif hon, ond yn un
o'i- sefydliadau mwyaf pwysig hefyd. Ynddi
y ftuifiwyd cynieriadau goreu Cymru, ac nid
ydyw ei nerth eto wedi dechreu pallu. Ynddi
y dysgodd llawer un sy'n rheoli ei ardal, nid
yn unig fyw mewn dull rydd awdurdod i'w eir-
iau, ond hefyd ofalu am " wedd allanol yr
achos," — gofalu am gyfarfodydd, ani arian, am
fusnes ymhob gwedd, gyda fîyddlondeb a man-
ylder a hunan-abeilh. Ac fel y mae llywodr-
aeth y wlad yn dod yn fwy gwerinol, y mae
dylanwadau'r seiat yn dod yn fwy amlwg. Caf-
odd y Saeson lawer mwy o fanteision i ddysgu
gwersi llywodraeth leol na'r Cymry, a thybir
fod ganddynt gyfaddasder neillduol at drefnu a
rheoli, — tra mai athrylith wyllt a gwrthryfelgar
ydyw athrylith y Celt. Wrth weled y gwaith
mawr wna Cynghoiau Sir Cymru, gyda medr a
than ymdeimlad o gyfrifoldeb, gofynnir pa le a
pha bryd y dysgodd y Celt reol, pa le a pha
bryd y daeth pwyll arafaidd yn eiddo iddo. Ac
atebir, heb gyfeiliorni, mai yn y seiat.
Nid anyddorol, hwyrach, fydd trem ar hanes
un seiat. Y mae Hyfr seiat, wedi ei gadw'n
fanwl ac wedi ei ysgrifennu'n brydferth, o fy
mlaen. Yr wyf yn cofìo'r gŵr a'i hysgrifen-
nodd, — gŵr glandeg a thywysogaidd yr olwg

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence