Skip to main content

‹‹‹ prev (49)

(51) next ›››

(50)
50 Clych Adgof.
" Prun o blant Pen y Geulan rodd \vy drwg
i'r hen Charles Jones Llanarmon?"
" Taw. Mi fu'r hen gloc ynia'n tician i
Forgan Howel, ac Evan Evans Nant y Glôg, ac
Ebenezer Morris, a Richard Dafis o Cîaio, a'r
hen Hughes Lerpwl, a lluoedd o honyn nhw."
" Yn tydi o'n beth rhyfedd ein bod yn niedru
dioddef swn y pendil. Y mae yr un fath o
hyd, — tip, tip, buase dyn yn nieddwl mai poen
anioddefo! fuase gwrando ar beth mor un-
donog. Ond y mae'r glust yn rhoi rhyw am-
rywiaeth a rhythm i'r swn, onide buase stori'r
hen gloc yn anioddefol."
" Dene wyt ti'n ddysgu yn yr ysgol ? Mae
rhyw wirionedd yn y peth wyt td'n ddoyd.
Buase llawer o honom yn anioddefol i'n gilydd
oni bai ein bod yn rhoi ìhythni dychmygol i
stori llawer un. Ond nid pob pregethwr fedre
ddiodde stori'r hen gloc ychwaith. 'Roedd o'n
gydymaith diddan d John Jones Talysarn a
Thomos John wedi i bawb arall droi 'i c^fne
arnyn nhw. Ond mi fydde Jobn Evans New
Inn yn codi o'i wely, ac yn cydio yn i bendil
o, — a bydde'r hen gloc yn ddistaw y noson y
bydde John Evan6 yn cysgu ym Mhen y
Geulan."
Erbyn hyn, y mae henaint wedi efîeithio ar
yr hen gloc hefyd. Safodd iyw noson, er nad
oedd yr un John Evans New Inn wedd cydio yn
ei bendil : ac yr osdd mor ddistaw a'r llu o lef-
arwyr sydd wedi tewi yng Nglyn Distawrwydd.
Yr ydym oll wedi dysgu edrych ar y cloc fel
bod byw, fel un o honom ninnau, a thybiem mai
o fwriad y safodd. Tybiem nad oedd yn hofîì
dull yr amseroedd newyddion ; daw ceidwad-
aeth gyda henaint bob amser. Ar ei gyfer saif

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence