Skip to main content

‹‹‹ prev (9)

(11) next ›››

(10)
10 Clych Adgof.
dychryn wrth glywed rhu disymwth gwynt
meiriol, a chreciadau brawychus y rhew yn yr
afon.
Doi cymydog ar ei dro, ac ambell rodiadur,
i'm cartref ar hirnos gaeaf, i ymgomio wrth y
tân mawn yn yr hen dy clyd ; a byddai gweleä
fy ngwyneb bychan llwyd chwiH'rydig i yn
gwneyd iddynt ddechre adrodd eu hystraeon.
Gwyddwn hanes degau o ysbrydion wrth eu
henwau, ond mai enw'r adroddwr fyddai f'enw
i ar yr ysbi-yd. Gwyddwn pwy oedd yn medru
witsio hefyd, a byddwn yn gochel cyffiniau eu
caeau pan yn chwilio am flodau newyddion neu
nythod adar.
Eis i"r Ysgol Sul yn fore iawn. Yr wyf yn
oofio myned y tro cyntaf yn dda, ar fore braf
ym mis .Mehefin. Yr oedd yr hen deiliwr wedi
bod ar ei diaed ymron dan hanner nos i wneyd
fy nillad newyddion ; nid ar ei draed ychwaith,
o ran hynny, ond ar y bwrdd. \r oedd y gôt
a'r trowsus yn barod, ond nid oedd bosibl
gwneyd y wasgod niewn pryd. A bu cynhad-
ledd uwch ben y dillad a'r tocion a minnau.
Ni wnai'r hen wasgod, yroedd yn amlwg, gyda'r
dillad newyddion ; oherwydd yr oedd amser
nythod adar newydd fynd drosodd, ac yr oedd
y wasgod wedi bod drwy filldiroedd o wrych-
oedd. Yr oedd pawb mewn penbleth ; ni fyn-
nai neb fy siomi, a minne wedi meddwl cymaint
am gael mynd i'r ysgol, ac eto gwelid mai i
hynny yr oedd yn rhaid iddi ddod. " Wel, fy
nyn "dèwr i," 'ebe'r hen deiliwr, " dydi dy
wasgod di ddim yn barod, beth wnei di?"
" Mynd i'r ysgol heb yr un," meddwn innau,
heb y petrusder lleiaf.
" Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei
phen," ebai yntau, " mae hi'n ddigon braf, cau-

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence