Skip to main content

‹‹‹ prev (164)

(166) next ›››

(165)
I. 15c-16b NODIADAU 69
15c kan, o cant, hen ffurf gan. Yn R.P.T. ceir a chan, sy'n
gwneud y 11. yn rhy hir. Cadwyd yr hen ddarll. yn 16c, ond
collwyd ef eto yn 18c.
hywyd : cf. M.A. 143b, n. 12, haelion hywyt hawt y treit ;
145a, Arglwyd h. hir ; 208b, Arglwyt boed hywyt Hywel
(ar ddiwedd marwnad) ; 232b, naf nawt hywyt (odlir â
rwyt, hulwyt) ; B.T. 43, Am arglwyd hywyd hewr eiran ;
B.B.C. 87, Bu hywit ac ny bu doeth ; H. 33, yn hywyt yn
rwyt rac hwyedic ; 19, Gruffut . . . hywel . . . a, hywyt oloed
(am gladdu) ; 214, trugar duw hywyt rwyt rinwetawc.
Felly daw o hy- ac -ŵydd; yn ôl Strachan, R.C. xxviii, 202,
cytras â'r Gw. súi, gen. suad "doeth", gan dderbyn ystyr
Pughe i'r gair, sef "intelligent" ; cf. gwy{dd)bod. Ni thâl
yr ystyr mewn rhai, beth bynnag, o'r enghreifitiau uchod,
mwy nag yn y testun. Beth am "rhwydd, cyflym,
parod" ? Cf. H.G.Cr. 289, "parod, amlwg" ?
16a gwyliis : y bôn yw gwyli- a chwanegir -is at hwnnw, cf.
dali-af, deliis, gw. P.K.M. 154, ar dellis.
16b aryguis: 'P.T. ygnis. Os dilynir R. yna ay y gms, hen
orgraff am "ar ei wisg" ; neu "ar ei wis, cf. Gw. fis, Ll.
visio : un ai fod ei darian ar ei arfau (cf . la, gwisc am arfau,)
neu yn amddiffyn ei wedd, ei wyneb. O blaid darll. P.T.
y mae B.T. 58, Duw ryth ỳeris rieu ygnis rac ofyn dybris ;
B.A. 37, gnissint gueuilon ar e helo ; B.T. 61, gnissynt kat
lafnawr a chat vereu. Gnissynt wyr ydan lcylchwyawr
Ueeu. Rhydd Pughe, ar bwys yr enghraifft olaf, gnisiaw
"to brandish, to flourish" : ystyr bosibl gyda llafnawr,
ond anaddas gyda "gwŷr o dan darianau". Y mae ar e
helo yn B.A. 37, sef "ar ei helw", yn atgoffa B.B.C. 82, 3,
Ar helv uy ren y guiscaf "under the protection of the Lord"
(cf. swyn i ddiogelu defaid mewn Gwyddeleg, Betha
Colmain, 54, mo chaórig ro bet ar seilb an oenfir, for seilb
Colmain, h.y. "dan nawdd"), fel peta.i' t gueuilon yn ymochel
dan nawdd yr arwr ; felly B.T. 61, gwŷr yn ymochel dan
eu tarianau rhag y llafnau a'r berau ; B.T. 58, rieu ygnis,
"kings on guard", rhag ofn Urien. Felly Gwên ar ei gnis
"on his guard" — a'r treigliad yn yr enw heb ei ddangos —
neu ar ygnis (cf . egni a gnif ?) "on guard".

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence