Skip to main content

‹‹‹ prev (88)

(90) next ›››

(89)
§18. MESURAU lxxxv
ansicr wyf am fesur tua thri dwsin ; ac wrth rifo sillafau
amryw eraiU petruswn beth i wneud ag ambell lafariad,
neu gywasgiad o lafariaid ; a hefyd a rifwn ragenwau ôl
neu beidio. Rhaid wrth y rheini weithiau, bryd arall
dyhd eu diystyru, e.e. rhydd y Llyfr Coch I, 45c, fel
talan teleisty deigyr hediw.
Yn B.B.C. 108, fodd bynnag, y testun yw :
talan teleiste deigir imi hetiw.
Wrth anwybyddu'r rhagenwau ceir llinell reolaidd o
saith sillaf. Trwy'r canu mi geisiais roi'r cyfryw mewn
llythrennau itahg, pan nad oedd eu hangen yn y mesur.
Y mae gormod o gysóndeb yma mewn rhif siUafau i
neb fodloni ar nifer acenion yn unig, ac o'r tu arall, y
mae gormod o amrywio yn hyd y Uinellau i neb wadu
nad oedd rhyddid i chwanegu sill neu ddau pan oedd
galw. Nid llygredd yn y testun yw'r achos, er bod
hynny'n bosibl weithiau.
Yn y dosbarth cyntaf, Canu Llywarch, o'r 180 y mae
71 yn Englyn Milwr, 7,7,7 ; oddeutu 10 yn rhifo 7, 7, 8,
pedwar yn 8, 7, 7, a rhyw ddau ddwsin yn amrywio (un
yn 6, 7, 7 ; dau yn 7, 8, 7 ; un yn 8, 8, 8 ; a thri yn
8, 8, 7, etc). Englyn Penfyr o 11, 6, 7, sydd mewn 11 ;
o 10, 6, 7 mewn 18 ; o 9, 6, 7 mewn 13 ; ceir tri yn
10, 6, 8 ; pedwar yn 11, 5, 7 ; tri yn 10, 5, 7, a thri yn
9, 5, 7 ; a nifer yn amrywio mwy oddi wrth y patrwm.
O Englyn Byr Crwca nid oes yma ond tri (un yn 7, 10, 7,
a dau yn 7, 10, 6).
Yn yr ail ddosbarth, Canu Heledd, o'r 113, dyma'r
cyfartaledd : Englyn Milwr, 1,1,1; o hwn ceir 31 ;
un yn 7, 7, 8, dau yn 8, 7, 7, a phedwar yn 7, 8, 7 ; hefyd
un yn 6, 7, 7, a dau yn 8, 8, 7. Englyn Penfyr 11, 6, 7,
pedwar ; 10, 6, 7, ugain ; 9, 6, 7, tri ar ddeg ; 10, 5, 7,

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence