Skip to main content

‹‹‹ prev (76)

(78) next ›››

(77)
lxxiii
§15. AMSERIAD
Dangosais uchod fod peth o'r testun cyn hyned â'r
ddeuddegfed ganrif ; ceisiais amseru Llywarch hanes yn
hanner olaf y chweched. Nid yn ei oes ei hun y buesid
yn ei wneud yn brif gymeriad cyfarwyddyd o'r fath.
Felly rhaid gadael bwlch ar ôl y chweched iddo gael
amser i aeddfedu fel deunydd chwedl. Os cywir yw
rhoi Cynddylan yn nechrau'r seithfed, gofynnir ysbaid
iddo yntau aeddfedu yn gyfîelyb, ac felly cynigiais mai
rhywdro tua chanol y nawfed y Uuniwyd y ddau gyfar-
wyddyd, dyweder oddeutu 850. Yn y chweched yr oedd
tiriogaethau'r Brython yn llawer lletach na Chymru
heddiw. Yng nghanu Llywarch crebychodd Cymru i'w
maint presennol ; erys atgof am y Gogledd, ond lleddir
Gwên, yr olaf o'i feibion, ar oror Cymru heddiw. Cladd-
esid un ohonynt yn Llangollen, ac un arall ym Mwlch
Rhiw Felen yn ymyl. Dengys geiriau Heledd fod
dyffryn Hafren, ac Ercal yn Sir Amwythig, yn llaw'r
gelyn. Nid oes i Drenn berchen mwyn, a'i noddfa hi
yw glannau Dwyryw, y tu uchaf i Berriew, Aber-ryw,^
cwrr Sir Drefaldwyn, goror Powys.
Os yw'r Mabinogi yn esgeuluso Powys, ac yn rhoi
chwedlau Gwynedd, Dyfed, a Gwent yn unig, dyma
gyfarwyddyd sy'n sicr yn deillio o Bowys, eithr nid o
Bowys yn nydd ei bri, ond mewn cyfnod o adfyd, a
thristwch. Dioddefodd lawer mewn rhyfeloedd yn
erbyn Mercia ; bu Offa farw yn 796, a chyn hynny
gwelodd gwŷr Powys Glawdd Ofía yn torri trwy eu
gwlad i'r môr, ac yn ysgar rhan helaeth ohoni oddi wrth
y gweddill. Yn 822, yn ôl nodyn cwta yn yr Annales,
cymerodd y Saeson feddiant o Bowys.^ Yn 854-5, bu
» Cf. R.P. 129 b 39, aberryw odli â dryw.
- Cy. ix, 164, regionem poyuis in sua potestate traxerunt.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence