Skip to main content

‹‹‹ prev (44)

(46) next ›››

(45)
§5. CYFARWYDDYD xli
canu'n unig. Ymhen amser, derfydd y traddodiad
Uafar. Bwrier, pan ddêl y dydd hwnnw, na bydd ond
copi o'r englynion moel ar glawr, heb sillaf yn unman i
roi'r cefndir : pe felly, rhaid i ddarllenydd y canu geisio
llunio'r stori iddo'i hun o'r awgrymiadau a wêl yn
hwnnw. Hawdd iawn fydd cyfeiliorni o ddifíyg
defnydd, fel y gwnaeth y gŵr uchod.
Yng ngolau hyn dylem chwiho am drydydd math o
gyfarwyddyd, sef y dosbarth hwnnw na chadwyd dim
ohono ond y canu, h.y. copîau anghyflawn o'r ail ddos-
barth uchod. Dyna, mi gredaf, yw rhan helaeth o
gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin. Cymerer, er enghraifft,
yr englynion ynddo, td. 81. Cyferchir yn yr englyn
cyntaf rywun o'r enw Ysgolan.
Du dy farch : du dy gapan.
Du dy ben : du dy hunan.
I adu, ai ti Ysgolan ?
Daw'r ateb yn yr ail, "Mi Ysgolan Ysgolhaig," ac eir
ymlaen i gyfaddef y pechod a dduodd fyd yr ysgolhaig
hwn, sef llosgi eglwys, Uadd buwch ysgol, a boddi Ilyfr
rhodd ;i wedyn ei benyd am hynny, a'i edifeirwch rhy-
hwyr, "Pes gwypwn ar a wn, ar a wnaethwn byth nis
gwnawn." Digon gwir, efallai, ond beth barodd yr holl
helynt ? Nid oes modd darganfod o'r chwech englyn a
gadwyd. Gallwn ddychmygu a dyfeisio, ond ni elHr
bod yn sicr, oddieithr o un peth, sef mai englynion ym-
ddiddan ydynt o gyfarwyddyd coll.
Eto B.B.C. 94: Ymddiddan Arthur â Glewlwyd
Gafaelfawr. Collwyd y diwedd gan fod darn o'r llaw-
ysgrif wedi diflannu, ond mwy o goUed i astudwyr
rhamant Arthur yw ddarfod coUi'r rhagair rhyddiaith
' Deallaf rod y llsgr. fel bai ani rot yn ei horgraff gyffredin.
Am enghreifftiau eraill o d am dd ynddi, gw. B.B.C. 5, 4 ; 7, 2 ;
20. 4 ; 41, 14 ; 49, 16 ; 61, 9 ; 75, 9 ; 85, 2.

Images and transcriptions on this page, including medium image downloads, may be used under the Creative Commons Attribution 4.0 International Licence unless otherwise stated. Creative Commons Attribution 4.0 International Licence